Aneirin Karadog yn dathlu campau chwaraeon Cymru
"Penwythnos yng Nghymru Fydd" 鈥撀燾erdd gan ein 'Bardd y Mis' yn ymateb i ddigwyddiadau p锚l hirgron a ph锚l gron y penwythnos.
Cerdd gan ein 'Bardd y Mis' yn ymateb i ddigwyddiadau p锚l hirgron a ph锚l gron y penwythnos.
Penwythnos yng Nghymru Fydd
Aeth penwythnos arall heibio
a'r un yw'r g芒n o hyd,
o weld y sg么r daw ochneidio
gan gollwyr gorau'r byd.
Achos pan mae'n dod i golli,
does neb yn colli'n well:
Colli cefnwyr sy' 'di nafu,
neu golli bant, ymhell.
Ond mae llwyddiant yn stelcian
tu 么l i'r colledion llwm
a'r llyfrau hanes sy'n gwegian
(ac ro'n nhw eisioes yn go drwm!).
Mae bron i drigain mlynedd
ers i Pele sgorio'r g么l
a ddysgodd i ni amynedd,
neu bod gobeithio yn beth ff么l.
Ond ry'n ni ar ein ffordd i Ffrainc,
a n么l i Twickers, sef ein HQ.
A fydd Henson ar y fainc?
Ai Provence yw'r lle i fyw?
Ond mae 'na gwestiynau mwy
yn pwyso ar fy nghalon;
achos hoffwn wybod pwy,
pwy yw ein tywysogion?
Beth yw hyd a lled ein harwyr?
Ai dynion sy'n cicio p锚l?
Yn gollwyr neu'n enillwyr,
ydyn ni'n Gymry, doed a dd锚l?
Pan drechwn ni y Springbok
ac yna chwalu'r Maori,
pan gloiwn ni y padloc
ar gwpan Ewrop, myn dian-i,
a fydd y ddraig yn chwythu
ei th芒n ym mhob cornel?
A fyddwn ninnau'n Gymru
fel y gwelaf ar y gorwel?
A fydd yn y llyfrau hanes
ddim ond pennod am ddau d卯m?
Neu a fydd yna lyfrau'n gyfres
sy'n nodi taw Cymru 欧m?
Aneirin Karadog
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.
Mwy o glipiau Post Cyntaf
-
Chwarter canrif o'r Post Cyntaf
Hyd: 03:27
-
Doedd Caerdegog ddim ar werth
Hyd: 04:37
-
Ffarwel arbennig i Hari o Alder Hey
Hyd: 09:09