Gwledd y Nadolig – cerdd gan Nici Beech
Ein Bardd y Mis yn edrych ymlaen at y wledd o lyfrau Cymraeg sydd o’n blaenau.
Wrth i raglen Bore Cothi ymweld ag Awen Menai, Porthaethwy, ar ein taith siopau llyfrau, daeth Nici Beech, bardd y mis ar Radio Cymru, atom i ddarllen cerdd am y wledd o lyfrau Cymraeg sy’n cael eu cyhoeddi adeg y Nadolig.
Ym mis Tachwedd mae hi’n oer ac mae hi’n dywyll
ac mae gorchwyl pwysig ar ein gwarthau ni,
sef dangos peth dychymyg
wrth roi anrhegion ‘dolig,
ac mae’r ffordd i wneud yn amlwg iawn i mi.
Llyfrau, llyfrau Cymraeg!
Yr anrhegion mwya’ difyr yn y byd
Llyfrau, llyfrau Cymraeg!
O’ch siop leol sydd yn gynnes ac yn glyd.
Mae ‘na wastad rhywun clên tu ôl i’r cownter
i roi cymorth, ‘dyn nhw byth yn cael llond bol,
ac mi ffeindian hanner dwsin
o lyfra’ i wneud 'chi chwerthin,
ac yn eu mysg fydd Popeth Pws a Llyfr Mawr Lol
Os mai cwcio yw diléit yr hogan ‘fenga
ac mai’n hoff o wylio Becws a Chegin Bryn,
does 'na’m angen meddwl dwywaith
mi fydd 'Tir a Môr' yn berffaith,
ac mae ‘na gopi ‘di 'arwyddo yn fan hyn.
Os mai pobl yw eu pethau peidiwch boeni
mae 'na hanes ambell un i’w cael yn llawn
cawn bori mewn bywgraffiadau
ymgolli mewn hunangofiannau
o fore gwyn tan nos a thrwy’r prynhawn
Fe fu disgwyl hir am nofel Bethan Gwanas
sy’n mynd draw i Botany Bay o Gymru fach
ac i'r rhai sy’n hoff o ddenig,
mi gaiff ’Norte' yn Ne Amerig
gan Jon Gower, groeso cynnes yn eu sach.
Llyfrau, llyfrau Cymraeg!
Rhwng eu cloriau mi gewch deithio rownd y byd
Llyfrau, llyfrau Cymraeg!
O’ch siop leol sydd dim ond i lawr y stryd.
O lyfrau plant i nofel newydd Dewi Prysor
mi fedrwn sôn am 'chwaneg wir pe cawn
ond am anrheg fach i mi
mi wneith 'Fi sy’n Cael y Ci’,
neu gyfrol Gruffudd Owen y tro’n iawn
Llyfrau, llyfrau Cymraeg!
Mae ’na ddewis lu a tydyn nhw’m yn ddrud
Llyfrau, llyfrau Cymraeg
O’ch siop leol sydd yn werth y byd i gyd.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd y Mis: Nici Beech—Gwybodaeth
Cyfres o gerddi gan ein bardd preswyl, Nici Beech.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru.