Main content

Chwedl y grempog fawr

Cerdd gan Mair Tomos Ifans.

Doedd bod ar Radio Cymru ddim yn ddigon i Geraint Lloyd,
Roedd am fod lot fwy enwog na Tomo hyd yn oed;
Cael ennill record Guiness, ar hynny roedd ei fryd -
Penderfynodd Geraint wneud crempog fwya’r byd.
Hysbysebwyd y digwyddiad o Fôn rholl ffordd i Went
Drwy yrru’n araf araf bach mewn clamp o lori sment,
Roedd micsar anferth ar gefn hon, a hwnnw’n troi a throi,
A mil o fois y loris yn llwytho – a thindroi ;
Can tunnell o flawd codi a sach o gabanet,
Mynydd mawr o fenyn a llwch hen sigaret -
I mewn a nhw i ‘r micsar mawr, a halen fesul pwys,
A hynny er mwyn sirchau umami lot mwy dwys !
Dwsin o ddwsiynnau o wyau gŵydd a chwadan,
A chymaint â llyn Tegid o laeth gan fuches Fresian,
Mymryn o finag a Wyddfa o siwgwr,
A gwaddod hen jariau o waelod hen gwpwr’ -
I mewn a nhw i’r micsar a chymysgu’r stwff i gyd
Er mwyn i Geraint Lloyd gael gwneud crempog fwya’r byd;
Ond sut i gwcio’r crempog ? Ple cai badell ddigon mawr ?
Padell fwy na’r badell fwyaf ... padell ddigon mawr i gawr ...
Fe gafodd Geriant syniad - benthycodd badell Jodrell Bank
A’i rhoi ar ben llosgfynydd a’i thanio gyda tanc -
I’r badell arllwysodd y lori y mics -
Stwff digon tebyg i fortar wal frics -
Coginiodd un ochr i’r crempog mewn dim
I neud rochr arall rhaid ei throi yn reit chwim,
Fe’i taflodd i’r awyr er mwyn ei throi drosodd
Ond ddaeth i hi ddim lawr – yn wir fe ddiflanodd -
A nawr mae Geraint Lloyd yn arwr yn enwog,
Mi lwyddodd i lewni’r twll ozone fo’i grempog,
Mi achubodd y blaned – y cyfan i gyd -
Am iddo wneud crempog – y fwya’n y byd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o