Main content

Dirgelwch yr Wyau

cerdd ddiweddara Gruffydd Owen, bard y mis

Dirgelwch yr wyau

Maen nhw鈥檔 credu nawn ni鈥檓 sylwi,
rydw i鈥檔 honco medda rhai;
ond dwi鈥檔 gwybod fel efengyl
fod creme eggs 鈥檇i mynd yn llai.

Peidiwch poeni am bris petrol
na phris olew yn Dubai,
megis pi-pi dryw 鈥檇i hynny
a chreme eggs yn mynd yn llai!

Synhwyraf gyllell y llywodraeth.
Ai George Osborne sydd ar fai
am sleifio brawddeg i鈥檙 gyllideb
am greme eggs yn mynd yn llai?

Dwi 鈥檇i trio ffonio鈥檙 heddlu
MI6 a鈥檙 FBI
ond mae鈥檙 taclau鈥檔 ceisio gwadu
bod creme eggs 鈥檇i mynd yn llai.

Ond cefais dip-off cyfrinachol
(gan ryw smack-head o Drel谩i)
oedd yn honni fod o鈥檔 gwybod
pwy sy鈥檔 gwneud creme eggs yn llai:

Beti George a Margaret Williams
ac un o Hogia Llandygai,
nhw 鈥檇i鈥檙 cnafon diegwyddor
sydd yn gwneud creme eggs yn llai!

Maen nhw鈥檔 berchen llongau tanfor
sy鈥檔 cludo鈥檙 wyau i Mumbai
at ryw d卯m o arbenigwyr,
nhw sy鈥檔 gneud creme eggs yn llai.

Felly deffrwch bobol Cymru,
mae hi鈥檔 amser herio鈥檙 trai!
Awn i frwydro鈥檙 grymoedd aflan
sydd yn gwneud creme eggs yn llai!

Gruffudd Owen

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...