Main content
Cofion cynnes, o Langrannog
Cofion cynnes, o Langrannog
Haul oer,
Awel fain,
A dwylo bach fel talpiau rhew
Ar ôl codi’r Castech Mwya 'Ioed
Yn safn yr Ogof Ddu.
Troi'i gefn ar y profiad
A throi'i wên am adra.
A'r don eisoes wrth y mur,
Mae'n byrlymu gronynnau ei eiriau bach
I bwced y cof
Cyn ei throi hi wyneb i waered
Yn gastell o atgofion cynnes
Am haul ac awel fwyn
A saif,
Drwy lanw a thrai,
Ymhell o’r Ogof Ddu.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ebrill 2016 - Rocet Arwel Jones—Gwybodaeth
Rocet Arwel Jones yw Bardd Y Mis ar gyfer Ebrill 2016.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru.
Mwy o glipiau 06/04/2016
-
I Seth gan Rocet Arwel Jones
Hyd: 00:17