Main content

A鈥檙 Gymraeg a wylodd...

A鈥檙 Gymraeg a wylodd ...

Ac meddai ...

鈥楪ollish i hen ffrind heddiw.
O鈥檔 i鈥檔 ei nabod o
O鈥檌 grud,
A thyfodd yntau
I鈥檔 nabod innau,
Yn 么l drwy eonau
Fy chwedlau i.

Gollish i hen ffrind heddiw,
Oedd yn gwneud i mi wenu,
Oedd yn gwybod lle dwi鈥檔 goglais,
Oedd yn tynnu arna鈥檌
A gwneud i mi deimlo
Yn gynnes, gynnes.

Gollish i hen ffrind heddiw,
Oedd yn fy nhroi
Rownd ei fys bach,
Oedd yn gwneud i mi deimlo fel brenhines
Yn fy slipars,
A nghyrlars
Yn gwtj ar y soffa鈥檔
Gwatjiad ffilm.

Gollish i hen ffrind heddiw.
Efo鈥檔 gilydd fe wylon ni
Yn anwes hallt,
Y naill yng ngwallt y llall.
Ond roedd o鈥檔 fy nallt i
A thrwy鈥檙 cwbl
Yn gwybod
Be o鈥檔 i鈥檔 feddwl.

Am heddiw,
鈥橠yw ngeiriau ddim yn goglais,
鈥橲dim tro yn fy ymadrodd,
Mae鈥檙 soffa鈥檔 wag
A鈥檙 sgrin yn fud,
Oherwydd heddiw
Fe gollish i hen ffrind.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau