Main content

Cadeiriau Amryliw’r Ysgol Gynradd

Un gadair goch mewn byd mawr, mawr,
Un mor aflonydd ac mor syn,
Yn ddagrau parod ac yn wên,
Yn gollwng ond yn dal yn dynn.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Traed yn chwarae uwch y llawr.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Hogyn bach yn hogyn mawr.

Un gadair werdd yn hyder brau,
Yn gleisiau byw, pen-glin yn graith,
Yn llygaid llo a dagrau’n llyn,
Y byd yn wyn a Santa’n ffaith.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Traed sydd bron a thwtj a’r llawr.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Hogyn bach yn hogyn mawr.

Un gadair lwyd a’r hogia’n dîm,
Y byd fel ffilm a’r ffrindiau’n fflyd
Ar antur mawr i’r gofod pell,
A dim un hogan yn y byd.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Traed aflonydd ar y llawr.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Hogyn bach yn hogyn mawr.

Un gadair las, ddiniwed, ddoeth,
Arddegau’n sibrwd wrth y drws.
Yn dal a byr, yn gryf a gwan,
Yn hogyn mawr a babi tlws.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Traed yn barod, ar y llawr.
Coch a gwyrdd a llwyd a glas,
Hogyn bach yn hogyn mawr.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau