Main content

Allez Aled!!!

Bydd Cymru gyfan megis Ffrainc
Yn peintio鈥檙 ffyrdd a gweiddi
dros grys mwy melyn na chrys Chris Froome -
Aled mewn dillad Pudsey.

Fel gwraig i feiciwr nodaf hyn -
rheolau aur rhag helbulon
Ti angen clwt a Vaseline
Neu dy din fydd yn grybibion!

Cadwa linynnau dy forddwyd yn dwym
Cer a digon o ddiod oer melys,
Losin, a fferins a da da da
i bob tyle a rhiw ag Alltwalis.

Mi gymrith amser i wisgo鈥檔 iawn
A gwasgu mewn i鈥檙 leicra
A鈥檙 pants, a鈥檙 bibs a鈥檙 menyg a'r het a鈥檙 helmed y sana a鈥檙 sgidia...

Ond paid prynu dillad sy rhy dynn
Neu byddi di鈥檔 canu tenor
A cofio bod dy draed yn sownd i鈥檙 beic
Nei mi fyddi di ar dy ochr!

Cofia wrando ar Rhian Haf
yn dy dywys drwy niwloedd Corris
drwy eira oer i Ben y pas
a heulwen dragywydd fy ynys (M么n)...

Ond heb os y peth pwysicaf yw,
cadw un yn hapus -
S锚l bendith Mrs Huws sydd ben
Y hi sy鈥檔 gwisgo鈥檙 trowsus.

Ond codi arian ydy鈥檙 nod
Felly deuwch oll i wylio
A thaflu ceiniog ddwy neu dair
I Aled wrth wibio heibio...

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...