Main content

Cerdd Alan Llwyd i Galwad Cynnar

Cerdd Alan Llwyd

Yng Nghymru y mae rhyfeddodau,
adar a choed a blodau,
a mynyddoedd a dyffrynnoedd, a phrennau
yn gwegian gan ddail bob gwanwyn a haf;
rhyfeddod fel drudwy Gerlan,
drudwy yn gwrlid uwch Gerlan,
yn erlid ei gilydd uwch Gerlan;
cymylau鈥檔 malu鈥檔 fil o ddarnau m芒n, m芒n;
drudwy, cawodydd o ddrudwy,
lond awyr, a Gerlan yn dywyll.

Rhyfeddod fel rhyfeddod marwolaeth y dail ym Mro Elwy,
a鈥檙 farwolaeth yn ailenedigaeth y dail
o fewn trefn natur ei hun
eto ym mhair y tymorau:
y drefn a fu鈥檔 bod erioed
cyn i hyrwyddwyr cynnydd
ymyrryd 芒鈥檙 tymhorau.

Yng Nghymru y mae rhyfeddodau,
rhyfeddod fel y gerddi ym Modnant,
bwa aur y banadl uwchben
y l么n islaw
fel ystafell mewn castell coeth
芒鈥檌 nenfydau鈥檔 siandeliriau laweroedd;
eu melynder ar daen, a鈥檙 haenau
cl貌s o dresi aur fel clystyrau o s锚r,
a鈥檙 l么n islaw
fel L么n Goed felen i gyd.

Yng Nghymru hefyd mae rhyfeddod y m么r,
y m么r yn sisial yn isel, yn hisian fel sarff,
wrth olchi鈥檙 graean i鈥檙 lan;
ond ar draethau Cymru hefyd
mae 么l llanastr a gwastraff,
llanastr a gwastraff blith-draphlith ar fymryn o draeth,
esgyrn hen bysgod, cragen cranc; poteli a bagiau plastig
yn tagu鈥檙 adar, ac yn tynnu鈥檙 gwylanod i鈥檙 tir
o鈥檜 cynefin i leddfu eu cnofa
o lwgfa, oblegid i ni
lygru a gwenwyno鈥檜 cynefin, a dwyn eu cynhaliaeth,
a鈥檜 gyrru i fwydo ar faw
ein tomennydd gwastraff.

Ac ar raglen Gerallt Pennant
cewch glywed am y bwa aur yng Ngerddi Bodnant,
ac am ddrudwy Gerlan,
ac am yr hydref amryliw ym Mro Elwy
tra bo i natur a byd
ystyr a gwerth rhag y distryw i gyd
cyn inni halogi鈥檙 wylan gilwgus
芒鈥檔 holew, a dwyn ei chynhaliaeth,
a dileu 芒鈥檔 mwg a鈥檔 cemegau
y rhywogaethau i gyd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o