Main content
Jarman
Mae mur o galonnau’n curo
yn y chwys rhwng llawr ucha’r clwb
a’r nôs…yn aros.
Gitârs yn tiwnio’r awr
hyd ei heithaf
a thannau’n cyhyrau’n tynhau
yna, yn fflach o gonverse coch
ar ddawns herciog;
bardd y curiad calon
a bardd y misfit yn ffrwydro’n
heneidiau, a’i dweud hi
mewn ffordd yr ydan ni’n ei ddallt…
…ac er yn hŷn, mae o’n un
ohonom ni.
Estynwn tua’r awyr dywyll
a reggae reggaeio’r nos ymaith
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ionawr 2017 - Iestyn Tyne—Gwybodaeth
Cerddi gan fardd Mis Ionawr 2017, Iestyn Tyne.
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru.