Main content

Y shifft hwyr

Rwy'n darllen pethau trwm am ieithoedd llai
bob dydd, a theithio 'mhell i ganfod pryd
a sut mae gobaith i ni eddfu'r trai
a rhwystro traha bwlis iaith y byd.
Rwy'n chwil o ddadansoddi, ac mae 'mhen
yn brifo o'r holl ddata rhaid ei drin,
ac nid peth difyr cofio'i bod ar ben
ar ryw iaith bob pythefnos. Gwydr o win
dwi angen. Tanio'r radio a chael hoe
yng nghwmni Geraint Lloyd a'i het a her
posau na fedra i datrys. Dyma sioe
sy'n ffair o sgwrs a ch芒n 'nei dwyawr fer.
Tu hwnt i'r ymchwil, braf yw clwydo 'nghlyw
fy iaith fach i yn jest byrlymu byw.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o