Main content

Samariaid - Emyn gan Dr Si么n Aled Owen

Samariaid

Gwna ninnau yn Samariaid ar ein taith
yn barod ein hymgeledd i bob un
a lethodd bwys y dydd, neu ddiffyg gwaith,
neu helbul yr hen fywyd hwn ei hun.

Rho i ni'r gras i dderbyn pan ddaw'r dydd
i eraill droi'n gymdogion da i ni,
tu hwnt i'n cylch cyfforddus, neu i'n ffydd,
gan ddymchwel byrddau balch ein braint a'n bri.

Boed i ni ddysgu dilyn gwersi gras
a gweld cymydog ym mhob un yn Nuw:
gan ddathlu mai trwy fentro tlodi gwas
mae profi hyd yr eithaf gyfoeth byw.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau