Casia Wiliam - Mis Medi
Mae鈥檙 babell yn 么l yn y sied
gydag ambell welltyn o鈥檔 hanturiaethau
yn swatio鈥檔 boeth rhwng y plygiadau bl锚r.
Y welingtons hefyd, wedi cael fflich am y tro;
mwd M么n yn gafael yn dynn yn eu gwadnau.
Da ni鈥檔 dal i 鈥榗hwarae haf鈥 yn ein sandalau
tra bod tywod y traethau tramor
yn ffeindio鈥檌 ffordd mewn i leinin ein cesys.
Yn araf, daw s诺n y gloch i鈥檔 hysgwyd
o鈥檔 llesmair hir, a phrysurwn
i estyn dillad ysgol a rhoi min ar bensel.
Mae鈥檙 cloddiau a鈥檙 llethrau鈥檔 deffro hefyd
ac yn rhwbio鈥檙 haf o鈥檜 llygaid
i weld cleisiau piws y mwyar a鈥檙 grug.
Uwchlaw mae awyr Medi鈥檔 hiraethu
am oglais y wennol,
a鈥檙 llanw鈥檔 chwyddo dan leuad drom;
y dynfa i鈥檞 theimlo, bron.
Efallai y daw Mihangel a llyfiad cynnes
i鈥檔 cario tan yr hydref, ond, cyn hynny,
cyn i ni ddechrau meddwl am gau鈥檙 llenni鈥檔 gynt,
wrthi鈥檙 haul groesi o鈥檙 gogledd i鈥檙 de,
wrth i鈥檙 mis hwn ein gorfodi eto i feddwl am drefn,
cawn ddeuddeg awr o ddydd, a deuddeg awr o nos.
Byddwn i gyd, am ryw ennyd, ar ein hechel.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Medi 2017 - Casia Wiliam—Gwybodaeth
Casia Wiliam yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Medi 2017.