Main content

Cerdd Casia Wiliam, Bardd mis Medi, i Galwad Cynnar.

Cerdd Casia Wiliam, Bardd mis Medi, i Galwad Cynnar.

Dow, meddai Dyn, mi alla i wneud yn well fy hun

Edrychodd o ddifri ar ei fyd o glai a choed, o garreg a llechi
gan feddwi ar y syniad o Fywyd Modern.
Gwell. Cyflymach. Cryfach. Ysgafnach.
Trodd ei law at atom; aeth ati i ymyrryd…
A do! Llwyddodd i drin cadwyni o bolymer,
carbon, ocsigen, nitrogen, swlffwr a silicon
a chreu plastig.
Plastig! Plastig!
Plastig! Ffantastig!
Plastig yn llifo o’n droriau,
o’n pyrsiau, o’n clustiau
i mewn i grombil y ddaear
ac i’r tonnau.
Wele! Ein dyfais wych
mewn gwrych, ar lwybr troed, ar frigau’r coed,
yn y pysgod, ar ein platiau, yn ein boliau…
Oedwn, rhwng cegiad a chegiad
i brofi blas ein Bywyd Modern.
Mae ei wenwyn hallt yn ein gyrru at atom eto
ond mae patrymau’r cadwyni’n ein drysu
a’n dallu rhag dychmygu mwy.
Mae terfyn ar orwel ein gweld.
Ond yna, dow, meddai Dyn, yli ar Natur ei hun.
Mae gwychder yma o’n blaenau!
Yli’r pry yma, yn hongian ben i waered.
Heb siw na miw, mae’n byw mewn realiti sydd tu hwnt i ni.
Mae’n hongian, mae’n cerdded ben i waered.
GWELER, meddai Dyn. Gallwn ddysgu gan Natur ei hun.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau

Daw'r clip hwn o