Main content

Gwaith ymchwil daeareg arloesol ger Harlech

Drilio Gwyddonol ger Mochras

Math Williams y Daearegwr yn son am waith ymchwil daeareg Mochras.

Gwaith ymchwil daeareg arloesol yn cyhwyn ger Harlech
Bydd t卯m o arbenigwyr rhyngwladol yn dechrau ar broject ymchwil arloesol ger Harlech, Gwynedd ym mis Tachwedd 2017. Bwriad y project yw taflu goleuni ar esblygiad bywyd, hinsawdd a鈥檙 amgylchedd yn ystod y cyfnod Jwrasig, tua 180 miliwn o flynyddoedd yn 么l.

Canolbwynt y project yw drilio gwyddonol oddi ar arfordir gogledd-orllewin Cymru, ger maes gwersylla Mochras yn Llanbedr, i鈥檙 de o Harlech. Caiff y gwaith ei gydlynu gan ddaearegwyr o brifysgolion Caerwysg, Leeds a Rhydychen yn ogystal ag Arolwg Daearegol Prydain.

I gyd-fynd 芒鈥檙 project mae Amgueddfa Cymru yn arwain rhaglen ymgysylltu cyhoeddus sy鈥檔 cynnwys noson o sgyrsiau byr gan y gwyddonwyr ar nos Wener 13 Hydref, 7pm a diwrnod agored i鈥檙 gymuned leol yn neuadd bentref Llanbedr ar ddydd Sadwrn 14 Hydref, 10am鈥4pm. Bydd hwn yn gyfle i bobl ddarganfod mwy am y project, dysgu be鈥檔 union sy鈥檔 digwydd yn y safle drilio a pham bod daeareg yr ardal mor ddiddorol a phwysig. Bydd cyfle hefyd i drin a thrafod cerrig a ffosilau. Bydd ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn gweithdai ar y project, dan arweiniad y daearegydd lleol Dr Math William.

Pan fydd y drilio wedi cychwyn, bydd arddangosfa i鈥檞 gweld yng nghlwb y maes gwersylla yn esbonio cefndir y project. Bydd cyfle hefyd i ymweld ag ardal y drilio er mwyn gweld y gwaith yn fanylach a chyfarfod ymchwilwyr daearegol. Bydd yr ymchwilwyr hefyd yn cynnig sgyrsiau ar y project i gymunedau lleol.
Y bwriad yw echdynnu craidd, dros 1 km o hyd, o haenau creigiau gwaddodol Jwrasig Basn Bae Ceredigion. Bron i hanner canrif yn 么l, daeth gwaith drilio ar y safle yn ynys Mochras o hyd i archif arbennig o newid daearegol. Mae arbenigwyr nawr yn ailymweld 芒鈥檙 safle gan ddefnyddio technoleg fodern ac offer gwyddonol.
Mae鈥檙 Athro Stephen Hesselbo o Camborne School of Mines, Prifysgol Caerwysg, yn un o arweinwyr y gwaith ymchwil. Dywedodd: 鈥淢ae鈥檙 project hwn yn gyfle arbennig i ni astudio newid amgylcheddol a ddigwyddodd filiynau o flynyddoedd yn 么l, pan oedd y byd yn dal i ffurfio.

鈥淩oedd y project diwethaf ar y safle hwn yn chwyldroadol. Mae鈥檙 project newydd yn taclo cwestiynau sylfaenol ynghylch sut mae systemau amgylcheddol ein planed yn gweithio 鈥 sut mae cylchdro鈥檙 planedau a digwyddiadau folcanig yn cyfuno i newid cemeg y moroedd a鈥檙 atmosffer, er enghraifft.鈥

Bydd dros 50 arbenigwr daearegol o 13 gwlad yn astudio鈥檙 creigiau a鈥檙 ffosilau sydd ynddynt er mwyn deall, mewn manylder anhygoel, sut mae amodau ar y Ddaear wedi esblygu dros 25 miliwn o flynyddoedd.
Caiff y gwaith drilio a鈥檙 rhaglen ymchwil bum mlynedd eu hariannu gan y Rhaglen Drilio Gwyddonol Cyfandirol Rhyngwladol (ICDP) sy鈥檔 rhoi $1.5 miliwn, a Chyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol y DU (NERC) sy鈥檔 rhoi 拢3.7 miliwn. Mae disgwyl i鈥檙 gwaith ar ynys Mochras ddechrau ym mis Tachwedd 2017, 50 mlynedd wedi鈥檙 gwaith drilio diwethaf ar y safle.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

9 o funudau

Daw'r clip hwn o