Main content

Cerdyn

Pan gria dagrau’r barrug hyd y ddôl
a’r gwynt yn sôn o hyd mor bell fo’r gwanwyn,
mor anodd clywed curo’r galon ffôl,
â’r tonnau’n rhuo dros hen greigiau Llanddwyn;
mae’r golch i’w wneud, ac angen mynd â’r plant
i’r fan a’r fan, rhaid darllen adroddiadau,
a chipio ambell wên cyn dechrau siant
defodau braf noswylio a’i storïau.
Ond yn y bore brau daw’r geiriau’n nes,
a heddiw, cymer bader bach wrth ddeffro,
llythrennau llosg o serch sydd yma’n rhes
fel gwreichion o ganhwyllau’n ein goleuo;
a chael rhwng plygion cusan llatai dau
yr haf a dd’wed mai cariad sy’n parhau.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

51 eiliad