Main content

Cymreictod

Beryl Griffiths sy'n ysgrifennu cerdd ar gyfer Dydd Gwyl Dewi 2018 wedi iddi ddarllen y dyfyniad:
鈥淲elshness is a preoccupation, a political position, a form of dissent against the dominance of English culture鈥

Cymreictod

Rhywle ym mhlygion y si么l a lapiwyd amdanaf,
Ym mhlethiadau ei chynhesrwydd clyd, roedd un edau,
Yn batrwm hardd, yn llinyn o geinder, yn araf
Ddirwyn yn gwlwm o berthyn, o gysylltiadau.
Aeth rhin yr edau feddal, o鈥檌 throi rhwng fy mysedd,
Yn rhan ohonof, ac wrth im fentro yn dalog
Hyd lwybrau bywyd roedd yno, a鈥檌 gafael rhyfedd
Yn dynn amdanaf, yn gysur pur, diysgog.
Ond weithiau, pan ddaw rhai i dynnu yn yr edau,
I鈥檞 datod am na welant iddi werth na harddwch,
Bydd brath yr edau鈥檔 torri i鈥檙 byw a bydd creithiau
Hen, hen friwiau鈥檔 llosgi yn danbaid yn y duwch.
Ac felly, os gofynni pa beth yw Cymreictod,
Nid safiad, na dewis, na her, hwn yw fy hanfod.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud