Main content

Gwers Ffiseg i Gerallt !

Gwers Ffiseg i Gerallt !

Gareth Jones

Annwyl Galwad Cynnar,
Yn 么l fy arfer, yr oeddwn yn gwrando ar Galwad Cynnar, ar Fawrth y 3ydd ac yn mwynhau sylwadau Rhys Owen am effaith y tywydd oer ar risgl coed ac ati. Aeth y drafodaeth ymlaen i drafod effeithiau y rhew ar ddail ac ychwanegodd Gerallt mai "chwyddo wrth ddadmer" y mae y d诺r. Fel cyn athro Ffiseg, rhaid i mi dynnu eich sylw at y ffaith fod hyn yn hollol anghywir. Y chwyddo sy'n digwydd WRTH i dd诺r REWI sy'n achosi yr holl broblemau. Nid yw d诺r yn 鈥渃hwyddo wrth ddadmer鈥 鈥 i鈥檙 gwrthwyneb, cymryd llai o le y bydd o wrth ddadmer. Mae yn wir nad yw y problemau yn dod i'r amlwg tan iddi ddadmer - yr adeg hynny y bydd pobol yn gweld d诺r yn pistyllio allan o'r tyllau yn eu pibellau ac ati, ond gwnaed y difrod WRTH IDDI REWI. Prin iawn yw y sylweddau sydd yn chwyddo fel hyn wrth droi o hylif i solid - yn gyffredinol mae sylweddau yn "drymach" pan yn solid ac yn cymryd llai o le. Mae yn annisgwyl bod d诺r fel solid (rhew), yn arnofio ar wyneb d诺r (fel hylif) 鈥 mae yn 鈥測sgafnach鈥 ac yn cymryd mwy o le. Meddyliwch am bethau eraill e.e. c诺yr ac fe welwch bod y c诺yr sydd wedi toddi yn dod i鈥檙 wyneb a鈥檙 c诺yr solid yn aros ar y gwaelod, yr un peth, saim mewn sosban chips. Dyma fyddech yn ei ddisgwyl efo d诺r, ond na, mae y rhew yn arnofio ar yr wyneb. Mae hyn yn help i rwystro llyn rhag rhewi yn gorn 鈥 mae鈥檙 haen o rew yn helpu i鈥檞 ynysu. Ond nid dyma ddiwedd y stori; mae nodwedd arall ryfeddol yn perthyn i dd诺r. Fel arfer, y mae d诺r yn oeri (neu boethi) drwy y broses o ddarfudiad (鈥渃onvection鈥) 鈥 g诺yr pawb fod d诺r cynnes yn codi a d诺r oerach yn syrthio i gymryd ei le (am bod d诺r oer yn drymach na d诺r cynnes). Wrth i hyn ddigwydd mae y d诺r mewn llun yn oeri drwyddo. Ond y nodwedd ryfeddol arall am dd诺r ydi NAD ydi hyn yn digwydd ar 么l i鈥檙 d诺r syrthio i 4掳C. Ar 么l hynny, mae d诺r yn mynd yn ysgafnach wrth iddo oeri. Mae d诺r ar ei drymaf pan y mae ar dymheredd o 4掳C. Oherwydd hyn, mewn tywydd oer, bydd y d诺r yng ngwaelod llyn yn tueddu i aros ar 4掳C am hir iawn. Mae yn cael ei ynysu o鈥檙 oerfel uwchben wyneb y d诺r gan yr haen o rew drosto a鈥檙 d诺r di-symud uwch ei ben. Felly mae yn anarferol tu hwnt i unrhyw lyn rewi yn llwyr i鈥檙 gwaelod. Oni bai am y ffaith ryfeddol hon, byddai y mwyafrif o鈥檙 anifeiliaid a phlanhigion sy鈥檔 byw yn y d诺r yn methu a goroesi. Er ei fod yn rhywbeth mor gyfarwydd i ni, y mae d诺r yn stwff rhyfeddol.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

7 o funudau

Daw'r clip hwn o