Main content

Cerdd Beryl Griffiths i Galwad Cynnar am y Grugiar.

Gwers
Adroddir yr hanes yng nghyfrol Simon Jones – Straeon Cwm Cynllwyd

Rôl gorffen ei ddyletswyddau a phorthi ei stoc
Fe droediodd yn falch tua’r fawnog ar ddiwedd dydd,
Dan ei gesail yn dynn roedd ei gyfaill dur, a thoc
Daeth clecian adenydd grugiar yn codi yn rhydd
O gysgod y llwyni, yn daran o gnawd a phlu.
Cododd y gwn a dilyn ei hediad trwsgl, ffôl,
Dros borffor y grug. Ergyd. Tawelwch. Aeth yn hy
I geisio ei wobr. Cyn ei chodi hi i’w gôl,
Trwy’r llwyni yn ddi-betrus ei chymar ddaeth ar frys
Yn union ar draws llwybr y llofrudd mud a’i wn,
I syllu, mewn tor-calon, ar y corff yn y llus,
A’r saethwr yn llygad-dyst syfrdan i’r galar hwn.
Ac er i’r bugail grwydro’r llethrau ar hyd ei oes,
Ni fu yn saethu wedyn ar fawnog Bwlch y Groes.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

59 eiliad