Main content
Meiddia Feddwl
Chwaraeodd Superman andros o dric
pan wasgodd ei ddwrn
- a gyda chlic -
troi lwmp o lo yn ddeiamwnt.
Ond ni all yr arwr ffablaidd hwn
droi lwmp o lo yn ddeiamwnt, mwn;
mae’r byd yn llawer cymhlethach,
llawer prydferthach
na gwasgiad dwrn.
Felly pan asia dy amheuon yn un
a siarsia dy ofidiau i ti rasio ‘mlaen,
cofia nad oes cywilydd mewn cilio,
mewn camu nôl a chofio
be sy’n bwysig.
Meiddia feddwl dy fod yn fwy na
chryfder chwedlonol,
achos nid mewn gwasgiad dwrn
y mae magu sglein.
Beth Celyn
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Hydref 2018 - Beth Celyn—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer mis Hydref 2018 yw Beth Celyn.