Main content

Yr Eos yng Nghaergaint (efallai)

Yr Eos yng Nghaergaint (efallai)

Es i fy ngwely'r un pryd a鈥檓 mab,
am saith yr hwyr, ar ddechrau haf,
sydd ddim yn hwyr yr adeg honno,
roedd golau dydd yn dal i oleuo
rhimyn gwyn rhwng llen a wal,
a鈥檙 adar yn y coed yn dal
i ganu, ond roedd y mab bach wedi blino.
Gorweddais yno鈥檔 gwrando arno鈥檔
rhestru鈥檌 fyd, gorweddais yno鈥檔
dweud dim byd, am gyfnod maith,
mewn stafell boeth, mewn gwely llaith,
nes dechreuodd nos grynhoi
yn byllau du o dan y bondoi,
A nes clywais, rywle draw,
can a oedd fel pe bai llaw
y nos ei hun wedi鈥檌 gosod arna鈥檌,
Ac o鈥檌 chlywed, es i gysgu.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

38 eiliad