Main content

Rhiwddolion

Taith Bryn Tomos

Rhiwddolion.
 Ar ei hanterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg credir fod hyd at gant o drigolion yn byw yma, mewn tyddynnod gwasgaredig a thai oedd yn gartrefi i chwarelwyr a’u teuluoedd. Byddai rhai chwarelwyr yn gadael y pentref tua phump y bore i gerdded ar hyd Sarn Helen i lawr i orsaf drenau Pont y Pant, er mwyn bod yn eu gwaith yn y chwareli ym Mlaenau Ffestiniog erbyn saith y bore. Roedd eraill yn gweithio yn y chwareli mwy lleol, e.e. Chwarel Rhiwddolion sy’n y goedwig y tu ôl i Tŷ Uchaf, Chwarel Hafodlas ar gyrion Pentre Du, a’r amryfal chwareli bychain ym Mhenmachno a Dolwyddelan. Dechreuodd Rhiwddolion edwino yn y 1930’au law yn llaw â thranc y chwareli, yn arbennig felly chwareli mawr Blaenau Ffestiniog. Mudodd y trigolion i lawr i Betws y Coed a Llanrwst, a rhai ymhellach i lawr Dyffryn Conwy i’r tywydd a chyfleoedd gwaith gwell yn Llandudno a Bae Colwyn.
Wrth gerdded heibio’r tai sylwch bod un adeilad â set o risiau yn arwain ohono. Dyma lle’r oedd siop y pentref, fyddai, yn ogystal â gwerthu nwyddau a gludid i fyny Sarn Helen, yn gwerthu nwyddau a gynhyrchid ar y tyddynnod lleol.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o