Main content

Cerdd gan Osian Wyn Owen Bardd Mis Awst - Llosgi - y tanau yn yr Amazon.

LLOSGI
(O weld adroddiadau am dân yn yr Amazon tra ar wyliau)

Rhywle, ymhell, mae gwlad nad ydyw’n bod,
nad yw’n cyfrannu dim at droi y rhod.
Nes daw, un dydd, yn sbloets o goch i’n sgrîn
i’n troi yn fyddin o emojis blin.
Ond c’neswn ninnau’n dwylo yn y gwres
a gwadu bod y nos yn llosgi’n nes…

Fe aiff y sôn ar led, fel tanchwa ddig,
am y llanast, ond dim ond stori big
ydi hon, meddan nhw, tra’n procio’r glo
a gwadu bod y tân yn mynd o’i go.

Er duo esgyrn byd hyd at y mêr,
be allwn ninnau ’neud ond clicio share?
Ac er i ’sgyfaint byd besychu mwg,
a phawb o’r farn fod pethau’n mynd yn ddrwg,
be wnawn, ond c’nesu’n dwylo’n yn y gwres
a gwadu bod y nos yn llosgi’n nes?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

53 eiliad