Bardd y Mis - Llio Maddocks
Pacio
Be ddigwyddodd i ni'n dau
nath bacio'n bywyd fyny
pan oedden ni'n iau
gan gario'n cartref ar ein cefn
fel cranc yn cario cragen?
Be ddigwyddodd i ni, hei?
I'r ddau fu'n cyfri cychod
wrth dorheulo ar y cei?
i'r ddau nath ffitio eu holl eiddo
mewn i sach?
Ro'n i'n gallu codi'n bywyd cyfan
efo jest un bys bach.
Be ddigwyddodd i ni, tybad,
i'r ddau fu'n gwawdio rheiny
oedd yn prynu dodrafn yn lle profiad?
Ti'n cofio fi'n deud
mod i isio dim ond tÅ· bach
10 metr sgwâr?
Ti'n cofio ni'n addo
na fysa ni byth yn berchen
gwely sbâr?
A heddiw dwi'n cerdded draw
i'r swyddfa gwerthu tai
i nol y goriadau i'n tÅ·
sydd efo dwy lloft sbâr, dim llai.
Dwi di pacio 'mywyd mewn i bedair fan.
Ro'n i'n meddwl fysa hyn yn rhwydd,
ro'n i'n meddwl erbyn hyn sa gen i plan,
y baswn i'n fwy na tÅ· a swydd.
A ti'n gwenu arnai wrth osod y peiriant
golchi dillad newydd.
Be sy na i swpar? Ti di dadbacio'r sosbenni?
Ti'n cofio meddwl 'sa ni byth yn tyfu fyny?
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Chwefror 2020 - Llio Maddocks—Gwybodaeth
Llio Maddocks yw bardd Radio Cymru ar gyfer Chwefror 2020.