Main content

Bore Sul - Geraint Lovgreen

Bore Sul

Mae鈥檔 fore Sul yn Nulyn
ond di rwbeth ddim yn iawn;
mi ddylwn i fod yno
efo peint o Ginis llawn
ar 么l hwylio o Gaergybi
i hud yr Ynys Werdd:
ond dyma fi yn styc yn t欧
yn trio sgwennu cerdd.

Mae Joe鈥檔 absennol hefyd,
鈥檇i Gareth Bale ddim 鈥檓a,
Hal Robson Kanu heb ddod chwaith
so dwi mewn cwmni da.
Gartref fyddwn ni bob un
yn gaeth o flaen y teli
i wylio g锚m efo llai o dorf
ond rywsut, mwy o beli.

Achos er nad oes cefnogwyr,
pob enaid byw yn banned,
mae鈥檔 rhaid 鈥檔w gael p锚l newydd
bob tro eith un i鈥檙 stand
rhag ofn bod y feirws
yn stelcian yn rhes O
yn aros am gic ceffyl
gan droed chwith Kieffer Moore.

Ta waeth, n么l at y ffwti,
mae heddiw yn g锚m fawr
ddim fatha鈥檙 nonsens 鈥檔a nos Iau:
ma鈥檌 mlaen mewn pedair awr
Mae鈥檙 ddraig goch ar y piano
ac mae鈥檙 cyrtens wedi鈥檜 cau
a鈥檙 ornest dyngedfennol ar
S Pedwar C am ddau.

Ac felly ar y Saboth,
gwedd茂wn am dair g么l
a diolch wnawn i鈥檙 Arglwydd mawr
fod Aaron Ramsey鈥檔 么l!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

8 o funudau

Daw'r clip hwn o