Main content

Cerdd "Vok Fab Neb, a'i fab yntau, Tenavik" - Star Trek

Sara Louise Wheeler, Bardd y Mis, Ionawr, a'i cherdd ar thema Star Trek a chyflwr geneteg Syndrom Waardenburg math 1.

"Voq ‘Fab Neb’, a’i fab yntau, Tenavik"

I ymerodraeth y rhyfelwyr, ac i ganol y ffrae efo Starfleet,
daeth Klingon wedi ei alltudio gan ei ‘dŷ’ a’i deulu,
oherwydd ei fod e’n brin o felanin; Voq ‘Fab Neb’, y mae’n galw ei hun.

Ac wrth i rai ohonom ddal ein hanadl, gan ofni’r thema gyfarwydd o’r ‘albino drygionus’,
sydd mor gyffredin mewn sgriptiau anofalus –
mi wnaeth ef a’i fab herio’r syniad ein bod ni, y dad-bigmentiedig a difreintiedig,
hefyd â rhyw brinder sylfaenol foesol – rhyw nam di-baid ar yr enaid;
buddugoliaeth fach i unigolion ac ysgolheigion
liwcistiaeth ac albiniaeth, yw’r portread positif hwn.

Mae’n disgwyl yn addawys, achos yn groes i’r drefn maent yn weddus,
a’u cymhelliant yn ddiffuant, er gwaethaf yr agweddau dirmygus tuag atynt.
Ac er bod Voq bellach yn Sto-vo-kor, a Tenavik ’nawr yn fynach ar blaned Boreth,
mae eu bodolaeth ym mydysawd ailwampiad Star Trek,
yn un symbolaidd a phwerus, a ddaw â’r rhempian anffodus i ben.

Ymuno’n nhw ag Addison, Elsa a Khaleesi - cyn iddi losgi pawb â’i draig.
Ac ella felly cawn osgoi cwsg-gerdded mewn i ewgeneg,
gan dderbyn yn hytrach na dileu'r rheini, sydd â mwtaniad genetig,
sy’n peri iddynt fod y tu hwnt i gyrf normalrwydd.

Cawn ni rannu’r hen fyd ‘ma tybed? Pawb â’r hawl i fyw a bod, i fodoli ac i ffynnu;
daw’r doethineb o bob cwr – gan gynnwys cilfach llinyn-stori.

Dr Sara Louise Wheeler

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o

Mwy o glipiau Lili Wen Fach