Cerdd "Yuri Gagarin" - Gwenallt Llwyd Ifan
Yuri Gagarin
Est ti, Yuri Gagarin,
ar y ffordd tu hwnt i’r ffin,
haenen cynhaliaeth inni;
ffin nwy’n ein hamddiffyn ni.
O oleuadau’r gwledydd
sy’ ar dân drwy’r nos a’r dydd,
i’r nos a’r cosmos yn cau
yn dawelwch di-olau.
Un dyn yn dilyn y dydd
i’r lle hwn a’r sêr llonydd.
Oedaist, a syllaist ar sêr
yn hollti yn y pellter,
a galaeth yn y golau’n
fôr o haul ar blaned frau.
Y berl las yn bur o liw,
mor heulog o amryliw.
Tybed, wrth fyned heibio’r
erwau maith oedd ar y môr,
a oedd gwedd o fudreddi
yno i weld arni hi?
Awyr bur o dipyn bach
yn anwesu’n gynhesach?
Neu ryw haen o wraniwm
yn lliw gwynt dros ambell gwm?
Y môr hen yn dadmer iâ
i waelod rhewlif ola’?
Ein ffawd yw cynnal ein ffin
i ti, Yuri Gagarin.
Gwenallt Llwyd Ifan
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Yr Urdd a TG Lurgan
-
"Gwenwyn / Nimhneach" - Yr Urdd a TG Lurgan
Hyd: 06:27
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Melinau gwynt Môn
Hyd: 10:01
-
Be sy'n gwneud cyflwynydd teledu da?
Hyd: 07:24
-
Sut mae darllen map?
Hyd: 12:48