Main content

Cerddi Gwneud Gwahaniaeth John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones.

Cerddi Gwneud Gwahaniaeth John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones.

Y Bachgen nawmlwydd anodd

Roedd Gareth y Ferwig yn anodd ei drin
Roedd bron bob diwrnod yn groes ac yn flin,
Fe heriai’r athrawes o hyd ac o hyd
Nes tynnai ef sylw y dosbarth i gyd.
Ni wyddai Miss Williams beth allai ei ddweud
Na beth ar y ddaear y gallai ei wneud;
Ond yna un dydd pan aeth pethau fel ffair
Gofynnodd i Gareth ddod ati am air.

Awr ginio’n y stafell fe safai yn syn.
Yr unig beth ddwedodd Miss Willams oedd hyn:
Rwy am iti ddeall un peth, meddai hi,
Os byth y bydd rhywbeth yn ofid i ti,
Gofynna amdanaf, ac fe fyddaf wrth law,
Fe wrandaf fi arnat, beth bynnag a ddaw.
Am allan yr aeth hi, a Gareth yn fud,
Ac allan aeth yntau yn gryndod i gyd.

Drannoeth y bore, roedd Gareth yn gwylio
Miss Willams yn cyrraedd yr iard, ac yn parcio.
Aeth ati yn betrus a dwedyd, wrth ddod,
"Pan ddwedsoch chi wrthyf, Miss Williams, eich bod
yn barod i wrando - unrhywbryd - arna'i:
Wel chi ydi'r cynta i ddweud hynny wrtha'i."
Ac yna’i athrawes a’i clywodd yn dwedyd,
"Mae'r hyn ddwedsoch ddoe wedi newid fy mywyd."
Ac wrth i Miss Willams fynd at dasgau y dydd
Roedd deigryn bach tawel i'w weld ar ei grudd.

John Gwilym Jones

Gwneud Gwahaniaeth

Pan fo’r storm weithau’n ormod,
pan na bydd ond poen yn bod,
i’r waedd bob amser a wêl
ond düwch, iddi’n dawel
doed ryw awr, fel haul ar draeth,
i gynnes wneud gwahaniaeth.

Un gair, fel angor i gwch,
yn awr all greu tynerwch
hyd yr hwyr, nes dod â’r haf
draw ym merw’r storm arwaf;
sŵn un gair i’r un sy’n gaeth,
hynny all wneud gwahaniaeth.

Un llais, neu neu deimlo un llaw
yn dal, neu glywed alaw,
ac fel erioed, wrth oedi
gydag un cytûn, fel ti,
fe ddaw’r gwell i faeddu’r gwaeth
â gwên sy’n gwneud gwahaniaeth.

Tudur Dylan Jones

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

10 o funudau