Main content

Rhys Iorwerth - Brwydr Fawr Stadiwm Olympaidd Baku

BRWYDR FAWR STADIWM OLYMPAIDD BAKU

Er y tri deg mil di-ildio o Dwrcs
ar dân yn croch-udo,
ni ’di’r tîm sy’n codi’r to,
yn canu’n Baku heno.

Yn Baku, mewn hetiau bwced, yn dwym,
ar ôl dydd o yfed,
y gwir oedd, roedd gennym gred,
hen awydd i greu niwed.

Ar ôl rhyw how-reoli, a cheisio’n
llawn chwys, guro’r goli,
drwy ei rediadau di-ri,
yn ei amser, daeth Ramsey.

Ambell reg. Ambell gyfle gwych. A Bale
a’i gic boeth i’r entrych.
Amenio. Methu mynych.
Creu sioe – heb yr un crys sych.

Os heno Rambo fu’r un i godi
i’r gad, i’r amddiffyn
mae mawl. Mewn gwyrdd a melyn,
clod diamod i bob dyn!

Connor, mae Baku’n canu dy enw.
Ar dân y mae Cymru.
A nhw’r Eidal yn sâl sy’:
wobyl gânt o’n hwynebu.

Rhys Iorwerth

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o