Main content

Elinor Wyn Reynolds Bardd Mis Hydref Radio Cymru.

Elinor Wyn Reynolds Bardd Mis Hydref Radio Cymru.

Pan fod ie’n ddigon

Heddiw, ar bnawn Sadwrn prysur llawn siopwyr,
mi gerddais drwy goedwig y baneri cochion
a chlywed sŵn curiadau calonnau’n drymio’n daer
yn curo, curo ar waliau’r ddinas,
ac fe deimlais innau ’ngwaed yn rhedeg rhyw fymryn yn gynt,
am i mi glywed ‘Ie’ ar y gwynt
a’i weld ar wefusau pobl wrth fynd heibio, eu gweld yn nodio,
yn cytuno –
fi a’r miloedd eraill fu yno’n martsio,
yn gobeithio, yn breuddwydio,
yn dymuno gweld pethau da yn digwydd unwaith eto.

Gweithred lon o gredu yw dweud ‘Ie,’
chi’n gweld, mae’n wahanol, yn gadarnhaol,
yn ddewis bod yn adeiladol ac yn y broses ein gwneud ninnau’n bobol
sy’n mynnu cynnydd yn lle cyni,
bod yn ddewr yn lle ofni.
Achos am yn rhy hir
fe drodd bob dim yn llwch
dan gysgod hyll hen goncwerwr,
a nawr fe wyliwn ni
wingo angheuol yr ymerawdwr hunan-niweidiol
a’i stumiau creulon yn crafu a chrafangu
gan frifo pawb o fewn cyrraedd ei ddeg-ewin negyddol.

Ond yn dawel bach, fe ddywedwn ni ‘Ie ... Ie ... Ie ...’
eto ac eto, yn uwch, yn uwch bob tro,
hyd nes i’n lleisiau godi’n llu, yn rhu llawen,
a phawb i ddechrau gwenu,
achos peth da yw dweud ‘Ie’ i bethe – mae’n gam tua’n goleuni.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

10 o funudau