Main content

Rys谩it i Gadw Dau Ben Llinyn Ynghyd

Bardd mis Tachwedd 2022, Mererid Puw Davies, sy'n ymateb i'r argyfwng costau byw ar y rhaglen 'Gwneud Bywyd yn Haws'.

Rys谩it i Gadw Dau Ben Llinyn Ynghyd
(ar 么l G眉nter Grass)

I greu y saig mwyaf moethus, mynned
doriadau gorau y cig: y golwyth, yr ysgwydd, y goes.

Ond i鈥檙 sawl sydd am fyw鈥檔 gynnil,
cofied ein neiniau darbodus
yn paratoi鈥檙 scrag am oriau ers talwm,
y ffrei oen, y cigach, y syrth;
y wermod a鈥檙 frywes a鈥檙 potes pig tegell.

Ac os yw鈥檙 prynhawn yn mynd yn hirbryd
dewised y lobsg贸ws troednoeth
ateged lwyeidiau o ffacbys a ffa;
rhoed gynnig gobeithiol ar bopty brys.

A gall rhywun sy鈥檔 syllu yn llygad y geiniog
agor tuniau o datws i arbed y nwy
a鈥檜 halltu鈥檔 hael 芒 gofal.

Ychwaneged fel tamaid i aros pryd
fesur o geirch neu ddogn o fran
a phupur sy鈥檔 eger fel pryder.

Gosoded y bwrdd 芒 lliain main gofid
a鈥檌 addurno ag addewidion;

ac yn y pen draw, gweined y pryd

芒 dyrnaid fawr iawn o ddim.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau

Daw'r clip hwn o

Mwy o glipiau Gwneud Bywyd yn Haws