2. Rhyddid i Addoli
Rowan Williams cyn Archesgob Cymru a Chaergaint yn traddodi ei ddarlith Reith i'r 麻豆官网首页入口 yn y Gymraeg gan drafod ffydd a rhyddid.
Rowan Williams cyn Archesgob Cymru a Chaergaint yn traddodi ei ddarlith Reith i'r 麻豆官网首页入口 yn y Gymraeg gan drafod ffydd a rhyddid. Yn 么l yr Arglwydd Acton, yr awdur ar ryddid o'r 19 ganrif a ddyfynnir yn y ddarlith, rhyddid crefyddol yw sail pob rhyddid gwleidyddol. Mae Rowan Williams yn cymhwyso hyn yng nghyd destun De Affrica, y gwrthdaro yn y ddadl gyfoes am erthylu ac amryw bynciau eraill. Dadleuir fod rhyddid i addoli yn gorfod cynnwys y rhyddid i fynegi argyhoeddiadau yn ogystal a'r rhyddid i gyd-gyfarfod.
Recordiwyd y fersiwn Saesneg o'r ddarlith a sesiwn cwestiwn ac ateb o flaen cynulleidfa ym Mhrifysgol Abertawe gydag Anita Anand yn cyflwyno. Cyflwynir y ddarlith yn y Gymraeg gan John Roberts.
Araith yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt yn 1941 ar y pedwar rhyddid yw鈥檙 ysbrydoliaeth ar gyfer darlithoedd Reith 2022 gan holi pa mor hanfodol yw'r pedwar rhyddid heddiw. Traddodir pedair darlithydd yn Saesneg. Darlith Rowan Williams yn unig sydd wedi ei recordio yn y Gymraeg. Trafodir:
Rhyddid i lefaru gan Chimamanda Ngozi Adichie,
Rhyddid i addoli gan Rowan Williams,
Rhyddid rhag angen gan Darren McGarvey,
Rhyddid rhag ofn gan Fiona Hill.
Cynhyrchydd y gyfres: Jim Frank
Cynhyrchydd y fersiwn Gymraeg: John Roberts (Cwmni Tonnau Cyf.)
Peirianwyr sain: Rod Farquhar, Neil Churchill a Gareth Turrell
Cydlynydd cynhyrchu: Brenda Brown
Golygydd: Hugh Levinson
New to the Reith Lectures? Here鈥檚 where to start
Four lectures recommended by the series producer.
Podcast
-
The Reith Lectures
Significant international thinkers deliver the 麻豆官网首页入口's flagship annual lecture series