Main content

Alan Llwyd Bardd Mis Ebrill Radio Cymru

Croesawu’r Gwanwyn

Mae hi’n wanwyn eto, ac mae’r coed yn blaguro i gyd;
mae’r cennin pedr â’u lledrith yn melynu’r lôn,
a chyn hir fe ddaw’r gwcw, ar ôl iddi oedi gyhyd,
i disian ei dwysill, i daenu undonedd ei thôn.

Aeth dau o’n gwanwynau i’r gwellt. Un gwanwyn daeth haint
i’n merwino a’n rhynnu, a pheri inni grynu’n y gwres
gan arswyd a gwaeledd ac ofn; rhag cynyddu maint
y golled fe’i cadwai’n ein tai a’n cloi rhag y tes.

A’r llynedd, ar drothwy’r gwanwyn, heb i neb ein rhybuddio,
roedd y tanciau o Rwsia yn croesi’r ffin i Wcráin
i falurio pobol a thai, i ladd a llofruddio,
a thynged y byd yn ymgrogi ar edefyn main.

A gawn ni groesawu’r gwanwyn, er bygythiad y gwn,
â gorfoledd newydd, â llawenydd yr Ebrill hwn?

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau