Main content

Bardd Mis Awst Buddug Watcyn Roberts

Bardd Mis Awst Buddug Watcyn Roberts

Barbie Bragdy Boduan

Ydi Barbie yma ym Moduan?
‘Di hi’n gwbod am Gymru - gwlad y gân?
Geith hi alw fama’n ‘hafan’?
A ŵyr hi sut mae cynnau tân?

Gath hi’i magu mewn hen ffermdy’n
fwd a llaid gerllaw y lli?
‘Di hi’n rhan o gynaeafu
Gwerth a gwae’n bodolaeth ni?

Oes ’na groeso i Barbie yma’n Nghymru?
Canwn fawl i Forfudd a Dyddgu,
Felly pam ddim Barbie?
Ond cwestiwn arall, gwell sydd gen i-
Ydi Barbie yn barddoni?

Dwi’n siŵr iawn ei bod hi,
Ma’i bendant yn gallu,
Yndi, ond dim ond iddi gyfaddef – mai
Ken sydd yn rhagori.

’Falle’i bod hi yma’n cystadlu!
Wele’r dorf yn dod yn llu,
Wele bawb yn dod i syllu,
Ond syllu ar ei harddwch hi.

A oes croeso brwd i Barbie
yn y Bragdy bonedd hwn?
Yr oll a fynn y ddol ddelfrydol
Yw ei rhyddid hithau’n ôl.
Grym holl ryddid canu caeth,
Grym a hawliau ei chenhedlaeth.

A gaiff, dybed, gamsillafu?
Caniatad i wneud mistêc,
Rhwng y berfau, treiglo, ac arddodiaid…
Mae pawb yn haeddu brêc!

Ond nid un Barbie’n unig sydd yng Nghymru,
mae na fwy na choeliwch chi,
A phob un sydd yn barddoni
Ac yn trio ffeindio’i llwyfan hi.

Mae hi yma, yn ei nifer
Pan wyt ti a fi yn hawlio’n hyder;
Ar lwyfan byd o lwydni llaith-
Dan ni’n chwa o liw a gobaith.
A dwi’n siŵr, ym mer fy esgyrn
fod na ferched yn fan hyn
fod ‘na Farbie yma o hyd,
A’r hyn dwi’n w’bod ’hefyd
Waeth beth a welan nhw pan dan ni’n gwenu,
Dan ni’n lot, lot mwy na lliw ein gwallt ni.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

8 o funudau