Main content

Bardd Mis Hydref Clare Potter.

Cyfarfyddiad

Y dyddiau hyn, byddaf yn gweddïo o dan goeden,
neu yn eistedd ymhlith emynau’r peilon trydan
achos bob nos heb gysgu, y blancedi gwely fel flotsam a jestsom,
does dim lle am atebiad Duw.

Heddiw, yn ystod y wawr tra bo’r holl dŷ yn dal i gysgu
es i â fy hun i'r maes lle gwelwyd yr UFO gan y trigolion
ar waelod y Garth, lle oedd y tarth yn codi
dringais dros ffens weiren bigog yn chwilio am arwyddion ‘ffurf-bywyd estron’

Cynhyrfodd grym anhysbys guriad fy nghalon
wrth i mi sefyll yno yn gwisgo siôl dylluan

Roedd creithiau llosg ar foncyffion coed o'r llong ofod
wedi gordyfu â ffyngau
Gorffwysais fy nwylo yno, ar y ffyngau siâp clustiau
Yn aros am gyfarwyddiadau . . .

Llanwasant y lle,
yn yr awyr uwch ben yr hesg a’r ysgall
y fronfraith brysur, y gnocell werdd yn tapio neges, grawcian y gigfran,
hyd yn oed fi yn tisian.
Daeth yr ysgrythur cosmig ar siffrwd canghennau,
cynghanedd y coed trwy ddail yn cael eu gwasgaru

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

10 o funudau