WNO Orchestra / Cerddorfa WNO
Leader: David Adams
Welsh National Opera Orchestra was formed in 1970. Since then, it has established itself as one of the finest orchestras in the UK, highly praised for its distinction in wide-ranging operatic repertoire, as well as for it extremely varied concert work and portfolio of recordings.
Resident at Wales Millennium Centre, Cardiff, WNO Orchestra is one of two permanent, full-time ensembles at the heart of the Company, alongside WNO Chorus.
Former Music Directors of Welsh National Opera and its Orchestra include Carlo Rizzi (now WNO Conductor Laureate), Lothar Koenigs and the late Sir Charles Mackerras. Tomáš Hanus joined the Company as Music Director in August 2016.
The Orchestra’s stature and reputation as a world-class ensemble is demonstrated by its distinguished involvement in the St David’s Hall Cardiff Classical Concerts and the Welsh Proms. The Orchestra is regularly active at many high profile and festival engagements in the UK and abroad, covering an extremely wide range of styles from large symphonic works through to lighter orchestral and popular music, together with a regular portfolio of community work, family and school concerts, and chamber music engagements. In line with the Company’s commitment to young artistic talent, WNO Orchestra operates an extensive side-by-side mentoring scheme through rehearsal and performance programmes.
In 2023, WNO Orchestra continues its well-established concert touring programme across Wales and England, including an annual Return to Vienna tour, Music from the Heart Summer tour and Play Opera LIVE family concerts, in addition to regular concerts at the Royal Welsh College of Music & Drama. This season has also seen WNO Orchestra perform abroad at the Janá膷ek Brno Festival in the Czech Republic, before opening the prestigious Prague Spring International Music Festival in May 2023.
Cerddorfa WNO
Blaenwr: David Adams
Ffurfiwyd Cerddorfa Opera Genedlaethol Cymru ym 1970. Ers hynny, mae wedi sefydlu ei hun fel un o’r cerddorfeydd gorau yn y Deyrnas Unedig, ac yn cael ei chanmol yn fawr am ei safon uchel a’i repertoire operatig eang, yn ogystal â’i gwaith cyngerdd hynod amrywiol a’i phortffolio o recordiadau.
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd yw cartref Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’r Gerddorfa yn un o ddau ensemble parhaol a llawn amser sy’n ganolog i’r cwmni, ochr yn ochr â Chorws Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae Cyn-gyfarwyddwyr Cerdd Opera Cenedlaethol Cymru a’i Gerddorfa yn cynnwys Carlo Rizzi (Arweinydd Llawryfog Opera Cenedlaethol Cymru erbyn hyn), Lothar Koenigs a’r diweddar Syr Charles Mackerras. Ymunodd Tomáš Hanus â’r cwmni fel Cyfarwyddwr Creadigol ym mis Awst 2016.
Mae statws ac enw da’r Gerddorfa fel ensemble o safon fyd-eang yn cael eu dangos gan ei chyfraniad nodedig yng Nghyngherddau Clasurol Neuadd Dewi Sant Caerdydd a Proms Cymru. Mae’r Gerddorfa’n brysur mewn gwyliau uchel eu proffil yn y DU a thramor, gan arddangos ystod eang o arddulliau. Mae’r arddulliau hyn yn amrywio o weithiau symffonig mawr i gerddoriaeth boblogaidd a cherddorfaol ysgafnach, ynghyd â phortffolio rheolaidd o waith cymunedol, cyngherddau ysgol a theuluol, a digwyddiadau cerddoriaeth siambr. Yn unol ag ymrwymiad y cwmni i dalent artistig pobl ifanc, mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnig cynllun mentora ochr-yn-ochr helaeth, drwy raglenni ymarfer a pherfformio.
Yn 2023, bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn parhau â’i rhaglen deithio mewn cyngherddau sydd wedi’u hen sefydlu ar hyd a lled Cymru a Lloegr, gan gynnwys taith flynyddol Dychwelyd i Fienna, taith yr haf Cerddoriaeth o’r Galon a chyngherddau teulu Chwarae Opera YN FYW, yn ogystal â chyngherddau rheolaidd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru wedi perfformio dramor hefyd y tymor hwn, yng Ng诺yl Janáek Brno yn y Weriniaeth Tsiec, cyn agor G诺yl Gerddoriaeth Ryngwladol fawreddog y gwanwyn ym Mhrag ym mis Mai 2023.