麻豆官网首页入口

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Pob nos Fawrth ar raglen Magi Dodd mae Jeni Lyn yn dod 芒'r newyddion diweddaraf o'r s卯n gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt...

Gwyl T芒n Tanat 2010, Mehefin 18 ac 19

Chweched ?yl flynyddol cerddoriaeth Cymraeg Dyffryn Tanat. Sibrydion yn arwain y prif ddigwyddiad (gig awyr agored ar gae Y Ddol, Penybontfawr, Sir Drefaldwyn) ar nos Sadwrn Mehefin 19, gyda Gwibdaith Hen Fran a'r Violas hefyd yn chwarae. Ar nos Wener, Mehefin 18, mae cwis Cymraeg yn cael ei gynnal yn nhafarn Y Railway am 8pm.

Pris y tocyn ar gyfer y digwyddiad awyr agored ar gae'r Ddol yw 拢10, tra bod mynediad i cwis Y Railway am ddim. Tocynnau ar gael o dafarn Y Railway, Penybontfawr, Siop Eirianfa, Penybontfawr neu Siop Awen Meirion, Y Bala.

Gwyl N么l a Mla'n Llangrannog 2010, Mehefin 19

Diwrnod o gigs yn dechrau am 2pm sy'n cael eu cynnal yn nhafarndai'r pentre, Y Ship a'r Pentre Arms. Artistiaid eleni: Gai Toms, Dewi Pws a Sesh Bach, Ail Symudiad, Gwyneth Glyn, Adrift, Them Lovely Boys, Bois y Frenni, Burum, Sgidie Glas, Bois y Fro.

Gwyl Bedroc 2010, Mehefin 18 i 20

Gwyl Gymraeg Beddllwynog aka Bedroc yn Beddllwynog ger Merthyr Tydifl. Artistiaid eleni: Bryn F么n, Brigyn, Meinir Gwilym, Yr Ods, Yucatan, Y Betti Galws, Heather Jones, Ryan Kifft, Huw M, Masters in France, Adrift, Just Like Frank, Nos Sadwrn Bach, Y Bandana, Y Plebs, Alien Square, Candelas, Becca White, Steffan Huw, Bevan a Battric, Y Mwnciod Cwl, Mr Huw. Tocynnau nosweithi unigol: 拢7. Tocynnau penwythnos: 拢10.

Mwy o fanylion (amseroedd a lleoliad artistiaid):

Albym newydd Meic Stevens - Love Songs

Casgliad o ganeuon serch Saesneg gan y swynwr o Solfa. Cafodd y g芒n hyna ar y casgliad ei hysgrifennu n么l yn 1959, pan yr oedd Meic ond yn 18, tra cafodd y g芒n mwya' diweddar ei ysgrifennu yn ystod y sesiwn recordio ei hun yn 2009. Cafodd y mwyafrif o'r caneuon eu hysgrifenu gan Meic yn ystod yr 60au, ond dim ond yn y tair mlynedd diwethaf maent wedi cael eu recordio. Cafodd y casgliad ei ryddhau ar label Sain dros y penwythnos ac mae ar gael o siopau Cymru ac ar .

Ysgol Roc ar S4C

Fel y soniwyd pythefnos yn 么l, mae Sion Llwyd yn edrych am gantorion a cherddorion ifanc (rhwng 11-16 oed ) i gymeryd rhan yn ei raglen deledu newydd, Ysgol Roc. Y bwriad yw creu band newydd o gerddorion ifanc a fydd yn medru cyrraedd brig y S卯n Roc Gymraeg. Mae'r clyweliadau eisioes wedi dechrau ac yn parhau am y pythefnos nesaf mewn gwahanol rannau o Gymru. Manylion pellach: 01443 688500.

Maes B - Brwydr y Bandiau a Foam Party

Mae Maes B yn edrych am mwy o fandiau i gystadlu yng nghystadleaeth Brwydr y Bandiau Eisteddfod Blaenau Gwent eleni. Y gwobrau am ennill: 拢1000, Sesiwn C2 , Gig Nos Sadwrn Olaf Maes B 2010. Os oes gan unrhywun ddiddordeb dylid e-bostio post@maesb.com Hefyd mae Maes B wedi cyhoeddi y bydd nos Sadwrn gyntaf yr wyl (31 Gorffenaf) yn noson ddawns ac hefyd yn foam party. Mwy o fanylion:

The Joy Formidable yn cefnogi Sir Paul McCartney

Mae The Joy Formidable yn cefnogi Sir Paul McCartney yn Stadiwn y Mileniwm, 26 Mehefin. Fel rhan o'i sioe cyntaf yng Nghymru ers 35 mlynedd mae Sir Paul McCartney wedi gwahodd Manic Street Preachers a The Joy Formidable i gefnogi ef yn Stadiwm y Mileniwn, Caerdydd 26 Mehefin. Mae'r gig yn rhan o The Up and Coming Tour 2010. Mwy o fanylion:

Cynlluniau Richard James

Mi fuodd Rich James yn trafod ei gynlluniau am y dyfodol ar rhaglen Huw Stephens. Mi roedd yn Rich yn trafod ei albym newydd, We Went Riding, sydd allan 21 Mehefin ar label Gwymon, a'i gynlluniau am y dyfodol.

Sengl newydd Feeder - Call Out

Call Out yw'r sengl cyntaf oddiar albym newydd Feeder, Renegades. Mae'r band wedi bod yn teithio dan yr enw Renegades dros y flwyddyn diwethaf (galluogodd hyn i nhw beidio gorfod chwarae 'hits' Feeder), gan arbrofi gyda caneuon newydd, ac arddull ychydig trymach na'r hyn mae pobl wedi dod i ddisgwyl gan y band. Mae cyfle i weld y band yn chwarae sioe exclusive yn Manceinion ar 21 Mehefin. Er nad oes dyddiad wedi ei gadarnhau eto, mae'r albym fod dod allan rhywbryd dros yr haf. Mwy o fanylion:

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.