Defnyddiwch y ffurflen hon i enwebu rhywun ar gyfer Gwobr Werdd y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth.
Dyfernir y wobr hon i unigolyn neu grŵp o bobl sy’n gwella neu’n gwarchod eu hamgylchedd lleol.
Awgrymiadau ar gyfer enwebu:
Gallwch weld rhagor o fanylion ac awgrymiadau yma.
Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hÅ·n i enwebu rhywun ar gyfer gwobr. Os yw’r person rydych chi’n ei enwebu yn iau na 18 oed, byddwn ni’n gofyn am fanylion ei riant/gwarcheidwad.
Gellir enwebu tan 5:00pm ddydd Llun 31 Mawrth 2025. Bydd pob enwebiad yn cael ei adolygu a gofynnir i’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol gymryd rhan mewn seremoni wobrwyo yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Gallwch weld Rheolau’r Gwobrau’n llawn yma.