Diweddarwyd y dudalen: 5 Awst 2019
Mae ychwanegu yn ffordd dda o gofio pethau ar gyfer wedyn a mynd yn syth at y cynnwys sy’n bwysig i chi.
Weithiau, byddwn yn defnyddio'r pethau rydych yn eu hychwanegu i argymell cynnwys arall y byddech, yn ein tyb ni, yn ei hoffi. Ac weithiau byddwn yn rhoi hysbysiadau i chi amdanyn nhw, fel pennod newydd o raglen rydych wedi’i hychwanegu. Os ydych yn dymuno, gallwch ddewis peidio â derbyn yr hysbysiadau yma.
Fel arfer, mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i ychwanegu pethau. Y rheswm am hynny yw er mwyn i ni allu cofio popeth rydych wedi’i ychwanegu ac i chi gael mynediad ato ar unrhyw ddyfais.
Sut ydw i'n ychwanegu pethau?
Gallwch ychwanegu unrhyw beth sydd â botwm Ychwanegu wrth ei ymyl, gan gynnwys:
- Rhaglenni teledu a radio
- Clipiau Fideo a Sain
- Pynciau newyddion (yn yr ap Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú News yn unig)
- Pynciau chwaraeon
- Ryseitiau
Gallwch ychwanegu gynifer ag y dymunwch. Ond, dim ond 10 pwnc y gallwch eu hychwanegu yn yr ap Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú News. Ymddiheuriadau am hynny.
Sut mae gweld neu dynnu pethau rydw i wedi’u hychwanegu?
Mae gan wahanol rannau o’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú eu hadrannau eu hunain ar gyfer y pethau rydych wedi’u hychwanegu. Er enghraifft, yn iPlayer, maent yn cael eu hychwanegu at yr adran Fy Rhaglenni. Yn Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Sport maent yn cael eu hychwanegu at yr adran My Sport.
Gallwch gael gafael ar bethau rydych wedi’u hychwanegu a’u tynnu i ffwrdd ymhob adran. Ond cofiwch y bydd tynnu unrhyw beth yn golygu na fyddwch yn cael unrhyw argymhellion na hysbysiadau cysylltiedig.
Alla i ddim dod o hyd i’r pethau rydw i wedi’u hychwanegu
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi. Os nad ydynt yn ymddangos wedyn, efallai eich bod wedi’u hychwanegu pan nad oeddech wedi'ch mewngofnodi.
Sut mae rhannu'r pethau rydw i wedi’u hychwanegu?
Gallwch rannu pethau drwy ddefnyddio'r botwm Rhannu.