![pafiliwn_haul_02.jpg](/staticarchive/a76c9930b2528939273aaec0693244c49e08d882.jpg)
Bore Sul cynta'r 'Steddfod, a dim ond yr haul a fi oedd wedi codi. A'r adnod a daeth i fy meddwl wrth grwydro'r maes oedd hon: 'Eraill a lafuriasant, ninnau a aethom i mewn i'w llafur hwynt.'
Ond pwy ydi'r 'eraill' sy'n gweithio mor galed yn y winllan ddiwyllianol i sicrhau llwyddiant yr Wyl, flwyddyn ar ol blwyddyn?
Fe ges i sgwrs efo un neu ddau ohonyn nhw bore 'ma.
![eifion_parry.jpg](/staticarchive/729500ebb3741b10b02ca057de1509725b7d7827.jpg)
Mae'r Prif Arolygydd Eifion Parry o Abergele wedi ymddeol bellach ac yn gofalu am y meysydd parcio, gan wneud yn siwr fod y traffic yn llifo mor esmwyth a gwydraid o wisgi Frongoch.
![akison_nicola.jpg](/staticarchive/7ef64b38225def08b0805b14c58b4145b0512959.jpg)
Y ddwy chwaer Alison Seaman o Dreffynon a Nicola Dunn o'r Fflint sy'n gweithio i gwmni diogelwch ar y Maes. Mae nhw'n mynd o steddfod i steddfod ac o sioe i sioe.
A lle mae nhw'n mynd nesa?
"Adra' gobeithio," oedd ateb Alison, efo gwen fawr ar ei hwyneb.
![robin_a_david.jpg](/staticarchive/a8c615d256e1d73a53f22387d0dd5e7ab0135a43.jpg)
Robin Griffiths o Borthmadog a David Charles, sydd yn y coleg yn Salford.
Swyddogion ail-gylchu i Gyngor Sir Gwynedd ydi'r ddau, ond fe fu Robin am gyfnod yn geidwad y goleudy - mwy nag un a deud y gwir, gan gynnwys Ynys Enlli a'r Skerries.
![delwyn_evans.jpg](/staticarchive/0130e1f131055c5299215d56c39077b80a541202.jpg)
Y newyddion gwych i Gymru ydi fod dirprwy faer Dolgellau yn ddigon hapus i wisgo siaced felen y stiwardiaid.
'Roedd Delwyn Evans yn gweithio fel nyrs gymunedol yng NghaerlÅ·r cyn iddo fo ymddeol.
Ond pam oedd o am fod yn stiward?
"Yn syml iawn," medda fo "Isio rhoi rhwbith yn ôl."
A dyna nhw. Y gweithwyr a'r gwirfoddolwyr - pobol bwysig y 'Steddfod.