![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Mil a Mwy o Weddiau Trysorfa o Weddiau'r Canrifoedd yw enw campwaith o lyfr newydd gan y Parchg Edwin Courtney Lewis, Rhydargaeau, cyn weinidog Peniel a Bwlch-y-corn.
Ceir ynddo weddiau o'r ganrif gyntaf tan y ganrif hon - gyda mynegai manwl yn ôl geiriau agoriadol, yn ogystal ac awduron, ffynonellau a thestunau.
Mae nifer yn ymddangos yn y Gymraeg am y tro cyntaf, gan wneud y gyfrol hon yn un rhyfeddol o werthfawr.
Mae'r llyfr ar werth mewn siopau llyfrau Cymraeg yn barod, ond cafodd ei chyhoeddi'n swyddogol yn festri Heol Awst, fore Sadwrn 10 Ebrill.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![0](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|
|