麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1914 - 1937

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Lerpwl

(yr olaf i'w chynnal y tu allan i Gymru)

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Ethol y ferch gyntaf yn Aelod Seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol, sef Megan Lloyd George, Aelod Rhyddfrydol newydd M么n. Ethol Nai Bevan am y tro cyntaf yng Nglynebwy.
  • Ramsay MacDonald yn Brif Weinidog. Llywodraeth Lafur leiafrifol am yr ail dro.
  • Lewis Valentine yn ennill 609 o bleidleisiau yn etholaeth Caernarfon yn ymdrech gyntaf Plaid Cymru mewn Etholiad Cyffredinol.
  • Cwymp 'Wall Street'.
  • Cynnal Eisteddfod gyntaf yr Urdd yng Nghorwen.
  • Saith yn cael eu saethu yn y 'St. Valentine's Day Massacre'.
  • Cynnal y seremoni OSCAR gyntaf.

Archdderwydd               Pedrog

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Dafydd ap Gwilym'
Enillydd: Dewi Emrys
Beirniaid: J. T. Job, R. Williams Parry, J. J. Williams
Cerddi eraill: Richard Hughes, Birkenhead, ac Edgar Phillips (Tref卯n)

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Dewi Emrys yn ennill ei Gadair gyntaf, ar 么l mynych gystadlu. Canmolwyd yr awdl yn ormodol gan J. J. Williams a J. T. Job, a hynny oherwydd eu bod yn ymwybodol o'r diffyg teilyngdod yng nghystadleuaeth y Gadair ym 1927 a 1928, ac ar 么l i W. J. Gruffydd ddatgan yn Y Llenor fod oes yr awdl ar ben. Ceir rhai darnau telynegol derbyniol yn awdl Dewi Emrys, ond mae'r eirfa awdlaidd a mynegiant afrwydd yn ei handwyo, ac mae diffyg unoliaeth yn yr awdl yn ogystal.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Y G芒n ni Chanwyd'
Enillydd: Caradog Prichard
Beirniaid: Wil Ifan, W. J. Gruffydd, Gwili
Cerddi eraill: Pryddest gan Dewi Emrys a ffafriai Wil Ifan.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Dyma'r unig dro yn yr ugeinfed ganrif i'r un bardd ennill y Goron am y trydydd tro yn olynol. Cerdd gymhleth yw'r gerdd fuddugol, ac ynddi mae Caradog Prichard yn synio am Dduw fel Matriarch, fel Mam ofidus a gwallgof y cread, wrth iddo 'Weld y Goruchaf ar lun/ Gwallgofrwydd arglwyddes hardd'. Yng ngherddi eisteddfodol coronog Caradog Prichard mae'r ddynoliaeth yn ysglyfaeth i ryw bwerau tywyll, gwallgof.

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy