![Richard James](/staticarchive/5ea29f27e61c2906fa96254c51d5ad9e68144f88.jpg)
'...Artist sy'n gwybod pan mae orau i aros yn y cysgodion a phryd i gamu i'r llwyfan, sy'n dweud llawer am ei orffennol cerddorol a'i bresennol hudol." (Jude Rogers)
Dechreuodd Richard James ei yrfa'n ifanc iawn fel chwarewr bas y band poblogaidd, o Freshwater East, Sir Benfro, Gorky's Zygotic Mynci oedd yn gyfuniad o prog a psychedelia, gan ennill cefnogaeth John Peel, Mark Radcliffe ac eraill yn y 90gau. Yn 2006 daeth diwedd ar Gorky's a phenderfynodd Richard James barhau gyda'i yrfa fel cerddor ar ei liwt ei hun.
Cyhoeddodd ei albwm cyntaf , The Seven Sleepers Den (My Kung Fu) yn 2007. Roedd hwn yn waith hyderus- yn soniarus, melodaidd ac yn symud ei sain i gyfeiriad newydd.
Cyhoeddodd ei albwm nesaf yn 2010, We Went Riding oedd yn cyfuno'r tyner gyda'r iasoer-gyda'r g芒n 'Aveline' yn arbennig yn dangos y cyfuniad annisgwyl o melys a chwerw yn ei waith. Mae Richard James yn hoff o chwarae gyda genres cerdd-mae 'Hey Hey Hey' yn cyfuno 'Blues' a roc swnllyd tra bod 'Yes Her Smile's Like a Rose' yn ffocysu ar y banjo gwledig.
Braf clywed cyfraniad ei hen gydymaith a chyn brif ganwr 'Gorky's', Euros Childs yn yr albwm diweddaraf tra bod Cate Le Bon yn ymuno gyda James yn y g芒n, 'From Morning Sunshine'.
Newyddion
Albym a Taith Rich James
Chwefror 6 2007
Albym a Taith Rich James
Chwefror 6 2007
Albym a taith Rich James
Mawrth 22, 2006
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Parti "foam" Maes B, albym newydd Meic Stevens a llawer mwy...
麻豆官网首页入口 Wales Music
![Sian Evans](/staticarchive/40d47d278803ba4e94937f3aa8a82fe31e3930dc.jpg)
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.