Yn ei gêm olaf cyn ymddeol, tarodd Zidane yr Eidalwr yn ei frest cyn i Ffrainc golli ar giciau o'r smotyn.
Meddai Trezeguet: "Mae'n chwaraewr arbennig ac yn berson arbennig a bydd yn gwella, ond bydd angen amser.
"Gan ystyried popeth mae wedi gwneud i'r tîm cenedlaethol yr unig beth allwn ddweud yw diolch yn fawr a bravo."
Ychwanegodd: "Wrth gwrs, roeddem wedi gobeithio cael diweddglo gwell iddo ef a'r tîm cenedlaethol ond ni ddigwyddodd."
Dywedodd asiant Zidane, mai gwawdio "difrifol" gan Materazzi arweiniodd at yr ymosodiad a dywedodd byddai'r hyn dywedodd yr Eidalwr yn dod yn hysbys yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae darllenwyr gwefusau yn honni fod Yr Eidalwr wedi lladd ar deulu Zidane.
Cafodd cyn capten Ffrainc groeso cynnes iawn wrth gyrraedd Paris ynghyd â gweddill y garfan brynhawn Llun.
|