Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddarwyd: 30 Mawrth 2011

Young yn croesi bysedd dros Shanklin

Mae hyfforddwr y Gleision Dai Young wedi cyfaddef bod gyrfa'r canolwr Tom Shanklin yn y fantol oherwydd anaf i'w ben-glin.

Tom Shanklin

Daw cytundeb presennol Shanklin gyda'r Gleision i ben ym mis Mai ac mae wedi datgan pryder ynglŷn â'i ddyfodol.

Dywed Young bod trafodaethau gyda'r chwaraewyr 31 oed yn parhau wrth iddo wella yn dilyn llawdriniaeth ym mis Ionawr.

"Mae Tom wedi dweud bod yr anaf yn un brwnt ac mae'n dibynnu sut y bydd yn gwella," meddai Young.

"Fe fyddem yn gweld sut y bydd yn dod yn ei flaen cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â pharhau i chwarae.

"'Da ni'n croesi ein bysedd y bydd yn gwella ac yn gallu chwarae.

"Amser a ddengys ond mae'n ddyddiau cynnar ac fe fydd rhaid gwneud penderfyniad yn ddiweddarach.

Dioddefodd Shanklin, sydd wedi ennill 70 o gapiau rhyngwladol, anaf i'w ben-glin yn ystod gêm y Gleision yn erbyn Aironi ym mis Ionawr.

Dangosodd sgan ddifrifoldeb yr anaf a bu'n rhaid i Shanklin, sydd wedi cael ei lethu gan anafiadau, gael llawdriniaeth.

Tra bod ansicrwydd am ddyfodol Shanklin mae Leigh Halfpenny, Bradley Davies a Chris Czekaj wedi arwyddo cytundebau newydd gyda'r Gleision.

Maen nhw'n ymuno gyda Jamie Roberts a Sam Warburton drwy ymrwymo i'r Gleision.

"Maen nhw'n chwaraewyr sydd yn bwysig i ni. Mae'r bois yn chwaraewyr o safon," ychwanegodd Young.

"'Da ni'n hapus iawn gyda'u datblygiad a sut maen nhw'n symud ymlaen.

"Ac ry' ni'n falch iawn eu bod nhw eisiau bod yn rhan o'r Gleision am y blynyddoedd nesaf.

"Mae'n amlwg yn profi ein bod yn gwneud rhywbeth yn iawn ac mae'n bwysig ein bod yn ailadeiladu."

Mae Dafydd Hewitt, Josh Navidi, Andries Pretorius a James Down hefyd wedi arwyddo cytundebau newydd gyda'r clwb.


chwaraeon



About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý