Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Wenhwyseg
Yn anffodus, go brin y byddwch yn clywed llawer o un o dafodieithoedd hynotaf Cymru yn ardal Casnewydd erbyn hyn - er mai dyma gartref y Wenhwyseg.
Daw'r enw oddi wrth yr enw ar hen drigolion Gwent, y Gwennwys, ac yr oedd yn iaith oedd yn cael ei siarad yn eang ar un adeg mewn ardal yn ymestyn o Sir Fynwy cyn belled a Dyffryn Aman a Bannau Brycheiniog.

Ond er nad oes llawer o'r iaith i'w chlywed heddiw dywed Mary Wiliam mewn llyfr a sgrifennodd hi am yr Wenhwyseg ei bod i'w chlywed "yn ddyddiol" yn Saesneg yr ardal.

"Mae cystrawen y Gymraeg mor fyw ag erioed," meddai yn Blas ar Iaith Blaenau'r Cymoedd gan gyfeirio at ymadroddion Saesneg fel, What is on her? (Beth sydd arni?)ac You can venter that it was 'im (Gelli fentro taw ef oedd a.)

Dyfynna hefyd eiriau Cymraeg sy'n dal ar iws - ond yn y Saesneg: 'E went like a winci ac You can count on 'er wen there's taro."

Ymhlith nodweddion o'r dafodiaeth y mae Mary Wiliam yn cyfeirio atynt mae absenoldeb y llythyren 'h'
"'Ewl, 'eddi, 'yll yw'r ffurfiau arferol. Gweiddir Eisht! ar blant neu gŵn a chathod sy'n cadw sŵn. Ond os na yw hynny'n cael yr effaith briodol gweiddir Heisht! yn uwch fyth," meddai.

Dywed hefyd na ddefnyddir 'ch' yn y dafodiaith gan ddyfynu, wech, wthu a wilia.

Mae'n cyfeirio hefyd at y defnydd o 'g' mewn ffurfiau negyddol: Gwi ddim.

  • Cliciwch yma i weld detholiad o eiriau tafodieithol y Wenhwyseg a geiriau eraill sy'n hynod i'r de ddwyrain.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý