麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

麻豆官网首页入口 Homepage
麻豆官网首页入口 Cymru
麻豆官网首页入口 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

麻豆官网首页入口 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Lois Arnold, Dysgwr y flwyddyn Dysgwr y Flwyddyn
Tachwedd 2004
Lois Arnold, Dysgwr y Flwyddyn yn 2004 yn s么n am y profiad o gystadlu ac ennill y teitl yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd eleni, yn ei milltir sgw芒r.
Roedd Eisteddfod Genedlaethol 2004 yn un gyffrous iawn i fi. Yn un peth, ro'n i, fel llawer o bobl leol eraill, wedi bod yn gweithio'n galed ers bron i ddwy flynedd, yn codi arian a cheisio hybu'r Brifwyl yn lleol.

Ro'n i mor falch pan gyrhaeddais i'r Maes bendigedig o'r diwedd a gweld y bobl yn llifo i mewn a mwynhau'u hunain yn y tywydd braf. Ond do'n i ddim wedi bwriadu cystadlu eleni - dim tan i mi gael fy mherswadio i roi cynnig ar gystadleuaeth "Dysgwr y Flwyddyn".

Mae ITV Wales yn gwneud rhaglen am y gystadleuaeth a ro'n i wedi gwylio'r rhaglen bob blwyddyn ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg. Weithiau ro'n i wedi breuddwydio am gymryd rhan yn y gystadleuaeth - ac yn ennill! Ond do'n i ddim wedi meddwl o ddifrif am y peth.

Ond pan ddaeth yr Eisteddfod i Gasnewydd sylweddolais ei bod hi'n bwysig i bobl leol gystadlu. Efallai nad oes llawer o bobl sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn yr ardal yma, ond mae miloedd yn dysgu. Ro'n ni eisiau i bobl weld bod y Gymraeg yn bwysig i ni yma. Felly pan gynigiodd rhywun fy enwebu ar gyfer y gystadleuaeth, penderfynais fynd amdani. Ro'n i'n teimlo'n swil ac yn nerfus, ond yn benderfynol o fwynhau'r profiad a chael hwyl.

Yn y rownd gyntaf roedd rhaid i ni fynd i D欧 Tredegar am ddiwrnod cyfan o gyfweliadau a gweithgareddau. Daeth dysgwyr eraill o bob rhan o Gymru ac roedd hi'n hyfryd cwrdd a siarad 芒 nhw. Roedd pawb yn nerfus, ond roedd y tri beirniad yn gyfeillgar ac yn gefnogol. Ar 么l mynd adre roedd rhaid aros i glywed a o'n i wedi cyrraedd y pedwar olaf. Faswn i ddim wedi synnu o gwbl taswn i ddim wedi cael fy newis, gan fod safon Cymraeg y cystadleuwyr eraill mor dda. Ond ro'n i wrth fy modd pan glywais fy mod i wedi cyrraedd y ffeinal.

Roedd pethau'n gyffrous iawn wedyn. Daeth criw teledu i fy ffilmio i ar gyfer y rhaglen. Cymerodd hyn ddiwrnod cyfan, gan fod y Cynhyrchydd yn awyddus i gael golygfeydd 'action' diddorol, yn ogystal 芒'r cyfweliad gyda Nia Parry. I fi roedd hyn yn golygu cael fy ffilmio'n canu'r ffliwt yng nghanol y dre a marchogaeth. (Doedd y ceffyl druan ddim yn hapus iawn am hyn. Roedd ofn' y microffon mawr, blewog arno fe, ond gadawodd i mi'i farchogaeth heibio i'r peth dychrynllyd sawl gwaith, tan i'r criw ffilmio fod yn hapus, chwarae teg iddo!)

Ar 么l hyn roedd rhaid paratoi am y rownd derfynol ar Faes yr Eisteddfod. Ro'n i mewn cysylltiad 芒'r tri arall oedd yn y ffeinal - Jane, Alison a Nick, ac roedd hyn yn help ac yn gysur wrth i ddiwrnod y gystadleuaeth nes芒u. Roedd hi'n boeth iawn ar ddiwrnod y ffeinal a ro'n ni i gyd yn nerfus ac yn chwyslyd iawn! Roedd rhaid i ni siarad ar y llwyfan ym Mhabell y Dysgwyr.

Yna cawson ni ginio ym Mhabell ITV a gweld y ffilm ro'n nhw wedi'i gwneud amdanon ni. Wedyn yn 么l i Babell y Dysgwyr i siarad am ein 'drysorau' (ro'n ni wedi dod 芒 phethau oedd yn bwysig i ni), ac yn olaf, cyfweliadau gyda'r beirniad. Yng nghanol hyn i gyd roedd hefyd yn lansiad fy llyfr i ddysgwyr, 'Cysgod yn y Coed', oedd newydd gael ei gyhoeddi gan Wasg Gomer. Felly roedd hi'n ddiwrnod llawn cyffro! Roedd hi'n braf wedyn cael mynd i fy mhabell ar y Maes Carafannau i orffwys, cyn newid a mynd i'r Noson Wobrwyo.

Roedd hi'n noson hyfryd pan gyrhaeddon ni'r gwesty ac roedd pawb yn ymlacio, yn yfed gwin ac yn mwynhau pawb ond Alison, Jane, Nick a fi! Ond o'r diwedd daeth yr amser i'r beirniaid gyhoeddi pwy oedd wedi cael ei ddewis yn Ddysgwr y Flwyddyn 2004. Roedd hi'n sioc pan glywais fy enw i! Ces i dlws hyfryd a 拢300 yn wobr a chafodd y pedwar ohonon ni sawl gwobr arall, gan gynnwys aelodaeth o CYD a Merched y Wawr. Dw i'n teimlo bod hi'n fraint ac yn anrhydedd mawr i mi ennill y gystadleuaeth hon. Y diwrnod ar 么l y gystadleuaeth clywais i gan yr Archdderwydd bydda i'n cael gwobr arall yn Eisteddfod 2005 - sef fy urddo i'r Orsedd (y Wisg Werdd). Alla i ddim meddwl am unrhyw anrhydedd fwy na hyn, yn enwedig i rywun fel fi, sy wedi dod o Loegr i wneud fy nghartref yng Nghymru.

Dw i ond yn gobeithio bydda i'n gallu cyfiawnhau ennill teitl 'Dysgwr y Flwyddyn' a'r anrhydeddau sy'n dod yn ei sgil trwy ysbrydoli a chefnogi dysgwyr eraill. Dw i'n ddiolchgar iawn i fy nhiwtoriaid gwych ac i fy nghyd-ddysgwyr dros y blynyddoedd, ac i'r gymuned Gymraeg leol, sy wedi bod mor groesawgar ac mor gefnogol i mi. Dw i'n fodlon iawn dod i siarad 芒 grwpiau, cymdeithasau a dosbarthiadau - cewch gysylltu 芒 fi ar 01873 856624.

Lois Arnold

(Llongyfarchiadau mawr i Lois. Hoffwn ddiolch iddi hefyd am ei chefnogaeth. Robin Davies)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
麻豆官网首页入口 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy