Dathlu'r Deg Mai 2009 Mr Eifion Hopwood yn cyflwyno anrheg i'r Parchedig Evan Morgan ac englyn o
eiddo'r Prifardd Mererid Hopwood, am ddeng mlynedd o wasanaeth yn Bethel, Rhiwbeina
Dathlu'r deg, dyna a wnaed ddechrau Ebrill
gan fod y Parchedig Evan Morgan yn fugail
arnom ni ers deng mlynedd.
Cyflwynodd Mr
Eifion Hopwood anrheg i Evan ar ran pawb
ym Methel i ddiolch iddo am ei ofal o'r
eglwys a hefyd mi gyflwynodd iddo englyn a
anfonwyd gan y Prifardd Mererid Hopwood.