![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![Geraint Davies yn dadorchuddio cofeb Kitch](/staticarchive/6b53a2de47031ceb45ad7595873522f8095fed76.jpg) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Cofio cyfraniad Kitch Gorffennaf 2002 I Gymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd, mae cyfraniad James Kitchener Davies i ddatblygiad diwylliannol Cwm Rhondda yn ddifesur. |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Ymgais glodwiw i wneud cyfiawnder â hyn oedd anerchiad y Cynghorydd Cennard Davies ar achlysur dadorchuddio plac i nodi bod Kitch wedi bod yn byw yn Aeron', ei gartref ar Heol Brithweunydd, Trealaw o 1940 hyd ei farwolaeth ym 1952.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at dair elfen oedd yn perthyn i Kitch: ei wleidyddiaeth, ei fawredd fel llenor a'i grefydd.
Fel sy'n amlwg o'i bryddest radio, Swn y Gwynt Sy'n Chwythu, roedd cyflwr ieithyddol ac economaidd Cwm Rhondda yn y 30au yn boen enaid i Kitch, a'i ymdrechion taer i ddod i delerau â'r sefyllfa, nodwedd o'r bardd, a amlygodd Cennard Davies yn gelfydd iawn.
Llwyddodd y Cynghorydd hefyd i gynnwys cyfeiriadau personol yn ei araith, gan sôn am ei atgofion o fynd heibio i dy Kitch bob bore ar ei daith i'r ysgol a gweld Austin 7 y bardd.
Cyn mynd ati i ddadorchuddio'r plac, a dalwyd amdano gan gyfraniadau aelodau Cymdeithas Gymraeg Treorci a'r Cylch, soniodd Geraint Davies A.C. ei fod wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn ei addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Ynyswen a hyn, wrth gwrs, yn ganlyniad i ymdrechion Kitch a dyrnaid o bobol a rannai'r un weledigaeth, yn ymladd i sefydlu'r ysgol.
Diddorol yw dyfalu ynglyn ag ymateb Kitch i'r ffaith mai aelod o'r sefydliad llywodraethol annibynnol Cymreig cyntaf ers amser y Tywysogion a wnaeth y dadorchuddio.
"Dyma gartref James Kitchener Davies, llenor a gwladgarwr (1902-1952), o 1940 hyd ei farw. "Fe fynnwn i gadw Cwm Rhondda i'r genedl" " yw'r geiriau ar y garreg.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![0](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|