Mae darluniau lliwgar Mike Jones yn portreadu glowyr, ffermwyr a gwragedd yr ardal ynghyd â thirwedd, strydoedd ac adeiladau'r cwm yn enwedig pentref genedigol Mike yn Ystalyfera. Mae'n dibynnu'n helaeth ar y cof i bortreadu y glowyr a'u gwragedd wrthi'n golchi neu gosod dillad ar y lein. Glöwr oedd ei dad ac er bod cymeriadau'r oes hynny wedi hen ddiflannu mae casglwyr celf yn hoff iawn ohonynt am eu bod yn cofnodi oes arbennig yn hanes y cwm a Chymru. Pob dymuniad da a llwyddiant iddo.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |